Manylion //

1.0 Cyflwyniad
1.1 Bwriad
1.2 Hanes
1.3 Pobl
1.4 Diogelu Data, Polisi Preifatrwydd a Hawliau Eiddo Deallusol
1.5 Hygyrchedd

1.2 Hanes //

 

Ffurfiwyd bloc fel fforwm trafod yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd ym 1998 mewn ymateb i effaith gymdeithasol, economaidd a deallusol technoleg ddigidol.

Mae datblygiad y sefydliad ers hynny wedi dilyn datblygiad gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n greadigol gyda thechnoleg ochr yn ochr â rhyngwyneb y sector gyda’r cyhoedd. Gydol ei hanes, mae bloc wedi gweithredu fel eiriolwr ar gyfer y sector, gan lobïo arianwyr, cymorth busnes, awdurdodau lleol a llywodraeth genedlaethol am gydnabyddiaeth a chefnogaeth.

Rhwydweithio i weithwyr proffesiynol

Roedd rhaglen gychwynnol bloc yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd misol thematig yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd, lle’r oedd siaradwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau a thechnoleg yn cyflwyno’u gwaith. Cydnabu Cyngor Celfyddydau Cymru bwysigrwydd y fenter, a chafodd bloc grant i gefnogi datblygiad y gyfres. Daeth yn amlwg bod sefydlu rhwydwaith i alluogi cyfnewid a chydweithio ledled etholaeth eang y sefydliad yn flaenoriaeth i bloc.

Arweiniodd datblygiad strategol bloc at greu prosiectau peilot yn y gogledd a’r de, gyda chyllid cychwynnol o sawl ffynhonnell. Mae prosiect y gogledd yn parhau i sefydlu sail gadarn yn y rhanbarth.

Ymwybyddiaeth y cyhoedd

Sefydlwyd rhaglen o seminarau cyhoeddus gydag amrywiaeth o bartneriaid. Dangosodd ei llwyddiant yr angen am fforwm agored ar greadigrwydd a thechnoleg.

BOED I CHI FYW MEWN OES DDIDDOROL (MYLIIT)

Cynhaliwyd yr wyl technoleg greadigol gyntaf hon, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Chapter, yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2005. Roedd MYLIIT yn cynnwys cynhadledd ddeuddydd, comisiynau newydd, hyfforddiant, arddangosiadau a phrosiectau artistiaid. Cynhelir yr wyl MYLIIT nesaf yn 2009.

Archif

Mae archifau sain a gweledol y digwyddiadau diweddaraf ar gael yn 2.1 Seminarau.


Mewngofnodi //



Cyflwyno | Cofrestru
Anghofio cyfrinair?
1515

where I am
hanadi traifeh