Manylion //

1.0 Cyflwyniad
1.1 Bwriad
1.2 Hanes
1.3 Pobl
1.4 Diogelu Data, Polisi Preifatrwydd a Hawliau Eiddo Deallusol
1.5 Hygyrchedd

1.3 Pobl //

Dr Emma Posey

Dr Emma Posey

Cadeirydd

Artist ac awdur yw Emma Posey sy'n canolbwyntio ar effeithiau technoleg ar le. Hi yw Cyfarwyddwraig sylfaenol Bloc. Mae wedi darlithio ac ysgrifennu ar bynciau eang ym meysydd celfyddyd a thechnoleg. Mae'n olygydd ac ymgynghorydd ar gyhoeddiadau a phrosiectau celfyddydau gweledol. Mae ei gwaith yn cynnwys ffotograffiaeth, fideo, electroneg a microbrosesyddion.

emma@bloc.org.uk

Carolina Vasquez

Carolina Vasquez

Datblygydd Rhaglenni

Artist amlgyfrwng yw Carolina Vasquez. Cyfrwng ei gwaith yw ffotograffiaeth arbrofol, animeiddio llun wrth lun, fideo, sain ac arlunio. Mae ei diddordeb ysol mewn pobl, eu cefndiroedd a'u straeon personol wedi bod yn elfen bwysig yn ei gwaith erioed.

Ymhlith ei harddangosfeydd presennol mae Giatrakou 28 yn ail arddangosfa eilflwydd Athens, Set to Manual yng Nghasgliad y Merched a Screwed Anthologies yn Labotanica. Mae ganddi arddangosfeydd hefyd yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Zizkov yn Prague, ac yn Oriel James Taylor, Llundain.

Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn Caribbean Art and Visual Culture, yng nghyhoeddiad Sala Rekalde Art Space ac yng nghyhoeddiad Low Lives. Fel rhan o'r Diaspora Vibe Cultural Arts Incubator ffilmiodd a golygodd raglen am ŵyl Artistiaid Rhyngwladol gyntaf y Bahamas (2006) ac ail ŵyl Artisitiaid Rhyngwladol St Maarten (2008).

Mae hi'n arwain gweithdai llun wrth lun gyda Creative Partnerships ac mae hi wedi arwain amryw o rai eraill gan gynnwys rhai yn Oriel Glynn Vivian a rhai yn y Galeri, Caernarfon. Mae hi'n Gyfarwyddwraig technegol y gyfres ddrama newydd ar lein Hatty Rainbow. Gwnaeth y fideo cefndirol ar gyfer The City yn Sherman Cymru ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Mess Up the Mess fel artist fideo ar gyfer Streic 25. Mae hi wedi gweithio gyda CBBC ar y gyfres llun wrth lun OOglies.

Cafodd Carolina radd MFA mewn Cyfryngau o Ysgol Celfyddyd Gain Slade a graddiodd gyda BFA mewn Celfyddyd Stiwdio o Brifysgol Florida.

Ym mis Hydref 2009 ymunodd â Bloc y Gogledd: Technoleg Creadigol Cymru fel Datblygydd Rhaglenni.

carolina@bloc.org.uk

www.carolisides.com

Tessa Elliott

Tessa Elliott

Cydlynydd bloc y gogledd

O gyfarpar safle-benodol mewn amgueddfeydd, ar afonydd ac mewn peiriannau sychu dillad mae cyfarpar technolegol arloesol Tessa Elliott wedi bod yn rhoi syniadau am ryngweithioldeb ar waith am bron i dri deg mlynedd. Mae pob darn o waith yn cyfuno cyfyngiadau adeiladu go iawn gyda chysyniadau rhaglennu cyfrifiadurol yn y broses o ddylunio, ddatblygu a rhoi syniadau ar waith. Mae ei gwaith arloesol wedi cael ei ddefnyddio ledled y byd mewn digwyddiadau fel SIGGRAPH yn yr Unol Daliaethau ac yng Nghylch y Celfyddydau Electronig, Awstralia. Maent wedi cael eu defnyddio hefyd mewn perfformiadau yn The Place and Sadlers Wells, Llundain; Theatr Harlech a Chastell Harlech, Gwynedd. Caiff cyfarpar a gomisiynwyd eu cadw yn y casgliadau celfyddyd parhaol yn, ymhlith eraill, yr Oriel Celfyddyd Fodern, Moscow, Rwsia, a'r Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain sydd hefyd yn ei disgrifio fel 'pioneer of British software art.'

Rhwng 1990 a 2001 bu Tessa'n gweithio yn y byd academaidd, yn gyntaf fel ymchwilydd, yna Darlithydd, Uwch-ddarlithydd ac Arweinydd y cwrs MA Celfyddydau Digidol mawr ei bri ym Mhrifysgol Middlesex. Bu hefyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Labordy Cyfryngau Digidol, Prifysgol Gorllewin Lloegr ac yn Ddarlithydd mewn Celfyddyd Digidol yn Ysgol Gelf Wimbledon.

Mae hi'n weithgar iawn yn y byd addysg, yn llunio gweithdai digidol arloesol ar gyfer, ymhlith erailll, Camerawork, SplitScreen, Lighthouse, Site, SCAN a Theatr Harlech.

Mae gweithiau Tessa ar gelfyddyd ddigidol ac addysg wedi cael eu cyhoeddi a'u cyflwyno mewn fforymau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys cynadleddau yn yr Unol Daliaethau, Awstralia, Canada, Ffindir, Yr Iseldiroedd a Phrydain.

Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwraig Celfyddydol SURGERY-Digital Art Research a sefydlwyd ganddi, ar y cyd â Jonathan Jones-Morris, yn 2007.

Ymunodd Tessa â'r bloc yn mis Ionawr 2010 fel Cydlynydd Bloc y Gogledd 4.

tessa@bloc.org.uk
http://surgerydar.co.uk

Stefhan Caddick

Cydlynydd Ar-lein

Mae Stefhan Caddick yn artist celf weledol sy’n byw yng Nghymru. Mae ei waith yn cwmpasu nifer o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys celf weledol, y cyfryngau newydd a rhai elfennau perfformiadol.

Mae ei waith yn aml ar ffurf troeon cyfrwys, strategaeth neu fethodoleg sy’n arwain at weithred, gosodiad neu fath arall o gyflwyniad, er enghraifft: codi hen arwydd ffordd yng nghanol Caerdydd a gwahodd y cyhoedd i yrru negeseuon testun iddo; ceisio adeiladu a defnyddio par o sgîs heb fod ganddo unrhyw brofiad o waith coed (nac o sgïo); recordio eiliad o swn bob munud am dair awr er mwyn creu record sengl 7"; neu deithio 250 milltir drwy Gymru ar gefn beic yn ystod oerni mis Chwefror, yn osgoi’r priffyrdd ac yn gofyn i bobl a basiai i lunio cyfarwyddiadau ar bapur ar ei gyfer.

Mae swyddi Stefhan yn y celfyddydau yng Nghymru wedi bod yn rhai amrywiol hefyd. Bu’n gweithio fel Swyddog Datblygu i Fentrau Diwylliannol, sef gwasanaeth cefnogi busnes ar gyfer y diwydiant creadigol yng Nghymru ac, yn fwy diweddar, fel Rheolwr Prosiect bloc: Technoleg Creadigol Cymru. Mae hon yn swydd sy’n golygu trefnu digwyddiadau datblygiad proffesiynol ac ymchwil penodol i’r sector ar draws gogledd Cymru.

Yn rhinwedd ei drydedd swydd fel dylunydd yn gweithio ym myd argraffu ac ar y we, mae Stefhan wedi gweithio i fwyafrif cyrff celfyddydol Cymru a nifer fawr o’i hartistiaid gan ddylunio popeth ar eu cyfer o gatalogau a monograffau i orielau ar-lein a blogiau.

Mae Stefhan yn byw ger Bannau Brycheiniog gyda’i bartner a’u merch.

http://www.axisweb.org/ofSARF.aspx?SELECTIONID=112 | http://www.papergecko.co.uk

Simon Mundy

Simon Mundy

Aelod o'r Bwrdd

Mae Simon Mundy yn fardd, cyfarwyddwr gwyl, darlledwr a chynghorydd polisi diwylliannol. Ef yw Cyfarwyddwr Centre for the Cultural Environment yn yr International Policy Institute, King's College, Llundain. Mae wedi gweithio fel cynghorydd i UNESCO, Cyngor Ewrop a Chenhadaeth y CU yn Kosovo yn ogystal â nifer o sefydliadau anllywodraethol megis Sefydliad Ford, European Cultural Foundation a'r International Music Council. Ef oedd Cyfarwyddwr National Campaign for Arts y DU o 1989 -1993 a chyd-sylfaenydd a Llywydd cyntaf European Forum for the Arts and Heritage. Mae wedi cyfarwyddo gwyliau yn yr Alban a'r Iseldiroedd ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gerddorion (gan gynnwys bywgraffiadau Elgar, Purcell a Tchaikovsky). Cyhoeddwyd tri llyfr o'i farddoniaeth ac ymhlith ei lyfrau eraill mae Making It Home: Europe and the Politics of Culture, a Short Guide to Cultural Policy Cyngor Ewrop. Ef hefyd yw Cadeirydd b10c, y rhwydwaith celfyddydau gweledol a chyfryngau newydd i Gymru, Is-lywydd Gwyl Llanandras ac Ymddiriedolwr European Baroque Orchestra. Mae wedi darlledu ar Radio'r BBC ers dros 25 mlynedd ac wedi ysgrifennu am y celfyddydau yn y rhan fwyaf o brif bapurau newydd Prydain.

sajhmundy@hotmail.com

Paul Granjon

Paul Granjon

Aelod o'r Bwrdd

Artist a anwyd yn Ffrainc yw Paul Granjon ac mae'n gweithio gydag electroneg, roboteg, fideo a rhaglennu. Mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae'n arddangos ac yn perfformio yn rhyngwladol. Cymerodd seibiant o'i swydd fel uwch ddarlithydd yn Ysgol Gelf a Dylunio UWIC tan 2007 diolch i Gymrodoriaeth Nesta. Paul Granjon yw un o'r pedwar artist a fydd yn cynrychioli Cymru yn y Venice Biennale 2005. Gellir cael mwy o fanylion ar www.zprod.org.

paul@zprod.org

Gwawr Cordiner

Gwawr Cordiner

Aelod o'r Bwrdd

Mae Gwawr yn Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Iaith Sir y Fflint ac yn gyd berchennog ar Siop Lyfrau a Chrefftau Cymraeg yn Ninbych. Magwyd Gwawr yn Nyffrynnoedd Clwyd a Chonwy ac mae hi o gefndir amaethyddol. Mae sicrhau ffyniant a datblygiad o’r iaith a’r diwylliant Gymraeg ac economi Cymru yn bwysig iawn iddi. Cafodd ei haddysg yn NEWI, Wrecsam a Phrifysgol Cymru Bangor ac mae hi wedi gweithio yn y meysydd datblygu tai cymdeithasol , datblygu economaidd a datblygu cymunedol ers 15 mlynedd.

Cydweithiodd Gwawr yn agos gyda swyddogion bloc i sefydlu Cynllun bloc y Gogledd yn Siroedd Conwy, Gwynedd a Môn ac mae hi yn awyddus i weld rhwydweithiau bloc yn ymestyn i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae hi’n briod gyda dau o blant ac yn byw yn Ninbych.

Louise Wright

Aelod o'r Bwrdd

Uwch Gynghorydd, Celfyddydau, Diwydiannau Creadigol a Chyfryngau Newydd y British Council.

Ymunodd Louise â’r British Council yn 1997 ac fe’i penodwyd i’w swydd bresennol yng Nghymru ym mis Hydref 2008. Mae wedi rheoli rhaglen ryngwladol o arddangosfeydd teithiol a phrosiectau sy’n cwmpasu’r celfyddydau gweledol, celfyddydau’r cyfryngau, dylunio a chrefft gymwysiedig. Drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y Tate, y Llyfrgell Brydeinig a’r Cyngor Crefftau ar brosiectau gan gynnwys History in the Making: A Retrospective of the Turner Prize a gynhaliwyd yn Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo, 2008; Magic Pencil, a guradwyd gan Quentin Blake a lansiwyd yn y DU yn 2002 ac a gyflwynwyd mewn dros 55 o wledydd, yn ogystal â’r rhaglen arloesol, Fabric of Fashion a ddangoswyd yng Ngogledd Ewrop a Rwsia. Pan oedd yn Rheolwr y Celfyddydau yn Nhwrci yn 2007, datblygodd a chyflwynodd Louise gynhadledd a rhaglen addysg greadigol mewn partneriaeth â Cherddorfa Symffoni’r BBC a gwnaeth gais llwyddiannus am arian gan yr UE ar gyfer y rhaglen greadigol, Cultural Bridges. Ar hyn o bryd, mae Louise yn arwain rhaglen Celfyddydau ac Economi Greadigol y British Council yng Nghymru sy’n datblygu cyfleoedd rhyngwladol, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor y Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac asiantaethau eraill yng Nghymru. Mae gan Louise MA mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf a Dylunio Chelsea, Llundain.

http://britishcouncil.org

Mathilde Lopez

Mathilde López

Aelod o'r Bwrdd

Mae Mathilde yn gyfarwyddwr theatr ac yn senograffydd, ac ar hyn o bryd yn Gyfranogwr Creadigol yn Theatr Genedlaethol Cymru. Fe gafodd ei hyfforddiant yn Central Saint Martins mewn Dylunio Perfformiad a chafodd ei dewis gan raglen BBC Vision i Ddylunio Cynhyrchiad. Mae ei gwaith dylunio yn cynnwys gwaith i ITV, BBC a Channel 4.

Fe sefydlodd Mathilde y Cwmni The Knitting Company gydag actorion o Ysgolion Jacques Lecoq a Philippe Gaulier. Mae ei chydnabyddiaethau Cyfarwyddo yn cynnwys: Yvonne, Princess of Burgundy gan Witold Gombrovitzc, Hotel Europa (La Suspension du Plongeur) gan Lionel Spycher ac Prometheus (darnau o Aeschylus Prometheus Bound) yn Theatr Cochrane a Neuadd Hoxton Hall; Cien años (cyfres o bennodau wedi ei seilio ar One Hundred Years of Solitude gan Gabriel Garcia Marquez) i’r theatr ac i ofodau sydd ddim yn theatr yn Llundain a Prague. Mae hi wedi gweithio gyda senograffydd Carl Fillion ar La Celestina (gan Fernando de Rojas) ac 1984 (opera gan Lorin Maazel) y ddau wedi ei gyfarwyddo gan Robert Lepage.

O 2006 i 2008 fe wnaeth Mathilde Birkbeck MFA mewn Cyfarwyddo Theatr ac wedi cynorthwyo nifer o gynhyrchiadau yn RADA (Mouthful of Birds gan Caryl Churchill a David Lan) a Theatr Royal Stratford East (Cinderella gan Trish Cook, Marilyn ac Ella gan Bonnie Greer). O ganlyniad i hyn fe fu yn gweithio fel rheolwr a chyfarwyddwr llenyddol i Theatr Royal Stratford East, ac fe gyd-drefnodd a hwylusodd peilot blwyddyn i’r IFEA (International Festival for Emerging Artists).

Yn ddiweddar mae wedi cynllunio Crosswired, darn dawns wedi ei ddatblygu a’i gyflwyno gan Ddawns Dwyrain Llundain a’r Ganolfan Barbican ac mae wedi dechrau The Motherland Project, prosiect perfformiad ar ddelwedd a chof.

http://nationaltheatrewales.org

Eddie Berg

Cynghorydd

Eddie Berg yw sylfaenydd Moviola (a elwir bellach yn Foundation for Art & Creative Technology - FACT) yn Lerpwl ym 1988. FACT yw un o brif sefydliadau celfyddyd Ewrop sy'n arbenigo yn y gwaith o gomisiynu, cyflwyno a chefnogi ffilmiau, fideos a chelfyddyd cyfryngau newydd. Berg fu'n gyfrifol am greu ac arwain datblygiad Canolfan FACT a gostiodd £11 miliwn ac a agorodd yn Lerpwl ym mis Chwefror 2003 i gymeradwyaeth eang.

Mae Berg wedi cynhyrchu cannoedd o brosiectau gan artistiaid sy'n gweithio gyda'r ddelwedd symudol a chyfryngau newydd ac wedi trefnu nifer o arddangosfeydd, llawer ohonynt wedi teithio'n rhyngwladol. Mae wedi gwneud cyflwyniadau a chyflwyno papurau mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a chynadleddau ym Mhrydain, Ewrop, Gogledd Amerig ac Awstralia. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd ar nifer o fentrau diwylliannol a chreadigol ym Mhrydain ac fel aseswr i Raglen Loteri Arts Council of England a NESTA (National Endowment for Science Technology & the Arts). Mae'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Creative Industries North West Development Agency ac Aelod Gweithredol o Fwrdd VAGA (Visual Arts & Galleries Association). Roedd Berg yn un o'r detholwyr ar gyfer cyfoedion newydd 98 a Gwobrau Paul Hamlyn i Artistiaid 2004 ac roedd yn aelod o'r tîm curadurol a gynhyrchodd Arddangosfa Ryngwladol 2002 Liverpool Ciennial of Contemporary Art. Ym mis Mawrth 2005 bydd Berg yn dechrau ar swydd fel Cyfarwyddwr bfi Southbank.>berg@fact.co.uk

Peter Davies

Cynghorydd

Ganwyd Peter Davies yn Abertawe ac astudiodd yng Ngholeg Celf Abertawe, Goldsmiths, a'r Coleg Celf Brenhinol. Bu'n dysgu wedyn yn yr UDA yn y School of Art Institute yn Chicago. Yn y Northern Arts bu'n Bennaeth y Celfyddydau Gweledol am 18 mlynedd ac ef a ddatblygodd Grizedale, rhaglenni Public Arts a rhaglenni Artists' Support. Yng Nghymru, PETER oedd Cyfarwyddwr comisiynau Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd ac yn ddiweddarach Pennaeth Celf a Chrefft Gweledol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn fwy diweddar mae wedi gweithio fel Pennaeth Gwydr a Serameg ym Mhrifysgol Sunderland. Mae Peter hefyd wedi cyflawni llawer o waith ymgynghorol sy'n cynnwys 'The Arts and Crafts Strategy for the City of Edinburgh', 'A review of Open Access Facilities in Scotland' a arweiniodd at gychwyn New Media Scotland, Dundee Contemporary Arts, a Chelf a Chrefft Gweledol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n Aelod Sylfaen o Grwp BECA.

peter.davies@sunderland.ac.uk

Lucy Kimbell

Cynghorydd

Mae Lucy Kimbell yn gweithio fel artist a chynllunydd rhyngweithio. Ar hyn o bryd mae'n Gymrawd Celfyddydau Creadigol a Pherfformio AHRB yn Ruskin School of Drawing and Fine Art, Prifysgol Rhydychen ac yn gweithio fel tiwtor yn y Coleg Celf Brenhinol. Mae ei phrosiectau diweddar yn herio'r ffordd y gwelir rheoli, technoleg a'r celfyddydau.

www.lucykimbell.com

inbox@lucykimbell.com

837

untitled
Sarah Goodey