1.0 Cyflwyniad
1.1 Bwriad
1.2 Hanes
1.3 Pobl
1.4 Diogelu Data, Polisi Preifatrwydd a Hawliau Eiddo Deallusol
1.5 Hygyrchedd
Mae’r canlynol yn ddatganiad cryno o Bolisi Gwarchod Data bloc:
Mae bloc yn cydymffurfio’n llawn â rheolau Deddf Gwarchod Data 1998 ac wedi ymrwymo i lynu at yr wyth egwyddor a sefydlwyd gan y Ddeddf honno. Ni wneir defnydd o ddata a gyflwynir gan unrhyw un i bloc fyddai’n tramgwyddo’r egwyddorion hyn. Cedwir data’n ddiogel, bydd wedi ei warchod rhag mynediad a defnydd diawdurdod ac ni throsglwyddir data i berson neu gorff arall heb sicrhau caniatâd unrhyw un y bydd hynny’n effeithio arno. Mae bloc yn parchu hawliau’r unigolyn a bydd yn sicrhau y perchir hwy bob amser.
Mae’r canlynol yn ddatganiad cryno o Bolisi Cyfrinachedd bloc:
Casglu a defnyddio gwybodaeth - Mae’r wybodaeth a gesglir ar wefan bloc yn eiddo i bloc a neb arall. Ni fydd bloc yn gwerthu, rhannu neu’n rhentu’r wybodaeth hon i unrhyw un arall mewn ffordd wahanol i’r hyn a nodir yn y datganiad hwn. Mae bloc yn casglu gwybodaeth gan ei defnyddwyr mewn nifer o lefydd gwahanol ar y wefan.
Dolenni cyswllt - Mae gwefan bloc yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill. Dydi bloc ddim yn gyfrifol am arferion cyfrinachedd y gwefannau hyn. Rydym felly’n annog defnyddwyr gwefan bloc i gadw hyn mewn cof a darllen datganiadau cyfrinachedd pob un gwefan sy’n casglu gwybodaeth adnabod. Hynny yw, mae’r datganiad cyfrinachedd hwn yn berthnasol i wybodaeth a gesglir ar y wefan hon yn unig.
Diogelwch - Rydym yn cymryd pob gofal wrth warchod gwybodaeth defnyddwyr y wefan hon. Pan fydd defnyddwyr yn cyflwyno gwybodaeth gyfrinachol drwy’r wefan, bydd y wybodaeth honno wedi ei warchod pan fydd ar-lein neu’n all-lein.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod gwybodaeth all-lein defnyddwyr y wefan. Mae’r defnydd o bob gwybodaeth o’r fath yn ein swyddfeydd wedi ei gyfyngu. Yr unig adeg y bydd gweithwyr yn cael mynediad i wybodaeth adnabod ydi pan fydd ei angen arnynt ar gyfer tasgau penodol. Mae ein systemau wedi eu gwarchod gan gyfrineiriau ac mae POB gweithiwr wedi derbyn cyfarwyddyd diweddar ynghylch ein harferion gwarchod a chyfrinachedd.
Mae hawlfraint yr holl waith a gyflwynir i wefan bloc gan ei defnyddwyr yn aros yn eiddo’r defnyddiwr/cyfrannwr/crëwr ac yn ddarostyngedig i bolisi Hawl dros Eiddo Deallusol (IPR) y person hwnnw. Mae’r polisi hwn yn datgan ymroddiad bloc i Gyfranwyr a Defnyddwyr y wefan ynghylch cyhoeddi ar-lein a’r ymrwymiad y mae bloc yn ei ddisgwyl yn gyfnewid am hynny gan y Cyfranwyr a’r Defnyddwyr.