Gweithgareddau

2.0 Cyflwyniad
2.1 Seminarau
2.2 Cynadleddau
2.3 Gwyliau
2.4 Cyhoeddiadau
2.5 Prosiectau

2.0 Cyflwyniad //

 

Nod gweithgareddau amrywiol bloc yw diwallu anghenion unigolion, BBaChau a sefydliadau mwy. Gall digwyddiadau gael eu trefnu i ganolbwyntio ar oblygiadau ymarferol datblygiadau newydd ar gyfer y sector neu faterion deallusol sy’n codi o arferion cyfredol. Mae digwyddiadau eraill yn ceisio ymgysylltu â’r cyhoedd, gan sbarduno trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth.

Waeth a ydych chi’n ymarferydd creadigol sy’n archwilio’r potensial y gall cyfryngau newydd eu cynnig, neu’n fusnes arloesol sy’n gweithio gyda thechnoleg, mae rhaglen weithgareddau bloc yn darparu datblygiad personol/proffesiynol, rhwydweithio, cyngor a gwybodaeth, yn ogystal ag achlysuron i ddathlu arbenigedd. Gallwch hefyd ymuno â thrafodaeth ar-lein ar ôl digwyddiadau neu bori trwy archifau sain a gweledol bloc o ddigwyddiadau diweddar.

Sefydliad ‘rhithwir’ sy’n gweithio gyda sefydliadau partner i gynnal digwyddiadau mewn lleoliadau sefydledig ledled Cymru yw bloc - defnyddiwch y panel ar y dde i chwilio ar sail detholiad o feini prawf.

I drafod pecynnau ymchwil neu ymgynghoriaeth pwrpasol ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â swyddfa bloc.

Mewngofnodi //



Cyflwyno | Cofrestru
Anghofio cyfrinair?

Chwilio //











Chwilio


1528

BrainStorm Media, Web Design and promotion specialists.
Kevin Smith
BrainStorm Media
www.brainstorm-med...